FFONAU SYMUDOL YN EIN HYSGOLION

Mehefin 17eg, 2026 

YMATEB UCAC I DDATGANIAD Y GWEINIDOG DROS ADDYSG 

Mae UCAC yn croesawu datganiad y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan, ddoe y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ‘disgwyliadau Cenedlaethol clir ar sut mae ffonau symudol yn cael eu defnyddio mewn ysgolion. ‘ Edrychwn ymlaen at weld y canllawiau ac at y cyfle o ymateb i ymgynghoriad a gynhelir ym mis Medi. Rydym yn falch fod y Gweinidog wedi nodi y bydd y canllaw statudol yn cynnig disgwyliadau clir.  Mae eglurder a chysondeb cenedlaethol yn hollbwysig yn ein barn ni.  Yn ddi-os gall ffonau symudol greu problem mewn ysgolion ac mae hyn yn creu gwaith ychwanegol i staff ysgolion sy’n gorfod delio gyda chanlyniadau defnydd amhriodol. Mae’n bwysig bod athrawon yn cael y cyfle i ganolbwyntio ar eu priod waith, sef addysgu. 

Rydym eisoes yn ymwybodol o rai cynlluniau sydd ar waith mewn ysgolion i gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol.  Mae ein haelodau wedi cyfeirio at ganlyniadau cadarnhaol hyn, gyda disgyblion yn siarad mwy â’i gilydd ac yn ymroi i weithgareddau eraill yn hytrach na bod ynghlwm wrth eu sgriniau ffôn.  Rydym hefyd yn ymwybodol bod angen sensitifrwydd i ofynion rhai dysgwyr sy’n gorfod cael mynediad at eu ffonau oherwydd cyflyrau meddygol. 

Edrychwn ymlaen at drafodaeth bellach am y maes hwn gyda’r Llywodraeth yn ystod yr wythnosau a’r  misoedd nesaf.  Rydym yn awyddus i wneud y gorau dros staff ein hysgolion a chreu amgylchedd dysgu ddiogel i’n dysgwyr. 

 

AMODAU GWAITH

Mehefin 15fed, 2026 

Mae gan UCAC gyfres o daflenni gwybodaeth am nifer o faterion perthnasol i athrawon.  Maent yn cael eu diweddaru'n gyson, er mwyn adlewyrchu newidiadau o ran y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) a deddfau perthnasol.  Mae taflen wybodaeth UCAC ar Amodau Gwaith Athrawon wedi ei diweddaru i gydfynd â'r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2025/2026 (fersiwn Mawrth 2026).    Mae'r daflen hon yn cynnig atebion i gyfres o ddeuddeg cwestiwn: 

1. Beth all Pennaeth ddisgwyl i athrawon yr ysgol wneud? 

2. A oes hawl disgwyl i athrawon fynychu cyfarfodydd ar ôl oriau ysgol? 

3. Beth am staff rhan amser yn mynychu cyfarfodydd? 

4. Beth all Pennaeth ac aelodau'r Tîm Rheoli neu Bennaeth Gwasanaeth ALl) ei wneud er myn sicrhau bod pob athron yn derbyn hawliau cytundebol y Ddogfen? 

5. A oes gan benaethiaid, dirprwyon a phenaethiaid cynorthwyol hawliau eraill? 

6. Sawl gwaith y gellir disgwyl i athrawon baratoi adroddiadau ysgrifenedig ar berfformiad disgyblion ar gyfer rhieni? 

7. A oes hawl disgwyl i athro gymryd cyfrifoldeb ac atebolrwydd am bwnc heb dderbyn cydnabyddiaeth ariannol? 

8. A oes hawl disgwyl i athro gyda chyfrifoldeb rheoli neu arwain gyflawni'r gwaith heb amser digyswllt yn ychwanegol at yr amser Cynllunio, Paratoi ac Asesu? 

9. Beth am ymateb i negeseuon e-bost ar ôl oriau ysgol? 

10. Arolwg Estyn

11. Beth am drefniadau Adolygu Dysgu Proffesiynol (yr hyn a elwid gynt yn Rheoli Perfformiad)? 

12. Beth am weithgareddau gwirfoddol, megis arwain clybiau ar ôl ysgol, paratoi disgyblion am gyngerdd ysgol, cynnal gwers adolygu ar ôl ysgol, gwneud dyletswydd cinio, cynnal clybiau amser cinio? 

Er mwyn cael ateb i'r deuddeg cwestiwn uchod, ewch i: 

2026_Amodau_Gwaith_Athrawon.pdf

Mae'r wybodaeth yn y daflen uchod wedi'i seilio ar y Ddogfen Cyflog ac Amodau isod: 

Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2025/26 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol – Mawrth 2026

 

SWYDD WAG

Mehefin 9fed, 2026 

Swyddog Cyllid - rhan amser 0.4 

Mae UCAC yn chwilio am berson profiadol, brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar: 

Prif waith y Swyddog Cyllid fydd:

  • Monitro a gweinyddu materion cyllid yr Undeb 
  • Paratoi adroddiadau i ddiben cynllunio

Cyflog cychwynnol y swydd: £33.118 pro rata (sef £13,684)

Ceir ffurflen gais, disgrifiad swydd a manylion pellach yma

 

Dyddiad cau: Mehefin 29ain, 2026 am 1yp 

Cyfweliadau: Gorffennaf 3ydd, 2026 

 

 

TGAU CYMRAEG Iaith a Llenyddiaeth - CYFLE I FYNEGI BARN

Mehefin 2026 

Mae nifer o'n haelodau wedi mynegi pryderon am y llwyth gwaith ychwanegol sydd ynghlwm wrth y cymwysterau TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Gradd Unigol a Dwyradd) newydd.  Mae UCAC wedi codi pryderon ein haelodau gyda'r bwrdd arholi.  Yn sgil y pryderon sydd wedi eu mynegi, mae CBAC yn ystyried rhai newidiadau posibl ac yn gofyn am adborth rhanddeiliaid ar yr opsiynau hyn.  Anogwn ein haelodau i ddarllen am yr opsiynau posibl ac i ymateb i'r arolwg.  Er mwyn darllen mwy am y cynigion, dilynwch y ddolen isod: 

Dweud eich dweud! Cyfrannwch eich llais at ddyfodol TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg

Er mwyn ymateb i'r arolwg, ewch i: 

https://www.surveymonkey.com/r/5JWJCR3 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar y cyfle hwn i ddweud eich barn!

 

DEALLUSRWYDD ARTIFFISIAL - Hyfforddiant am ddim i athrawon

Mai 2026 

Thema prif siaradwr Cynhadledd UCAC yn Nant Gwrtheyrn eleni oedd Daron Harris, athro a chanddo dros ugain mlynedd o brofiad o addysgu mewn ysgol uwchradd.  Mae wedi meithrin arbenigedd dwfn mewn Cyfrifiadureg, Deallusrwydd Artiffisial ac mae ganddo brofiad hefyd mewn arwain prosiectau cymunedol sy’n cysylltu technoleg yn ymarferol â Chwricwlwm Cymru.  

Ar hyn o bryd, mae Daron yn Ymgynghorydd Addysg Digidol gyda STEM Learning ar y rhaglen ‘Addysgu Digidol gyda Hyder’ ac yn cefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru, gan feithrin hyder a dealltwriaeth ymarferwyr o gyfrifiadureg a datblygu sgiliau digidol yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. 

Nod ei gyflwyniad oedd plannu hedyn ym meddyliau’r gynulleidfa ynghylch potensial a heriau AI (Deallusrwydd Artiffisial).  Aeth â ni ar daith hanesyddol, er mwyn gosod Deallusrwydd Artiffisial yn ei gyd-destun hanesyddol, cyn mynd ymlaen i drafod y posibiliadau a’r heriau y mae AI yn eu cynnig ar hyn o bryd. 

Mae’n amlwg bod y dechnoleg newydd yn datblygu ar gyflymder ac y dylem fod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf.   Mae’n werth cofio fod hyfforddiant y rhaglen Addysgu Digidol gyda Hyder am ddim i athrawon Cymru.  Ewch i’r wefan https://www.stem.org.uk/addysgu-digidol-gyda-hyder i gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau ac i archebu lle ar gwrs addas ar gyfer eich anghenion chi.