UCAC
Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru

Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid dros Gymru gyfan – yr unig undeb addysg sy’n rhoi addysgwyr Cymru’n gyntaf.

Rydyn ni’n cyfuno gwasanaeth ar lefel bersonol gyda grym undebol nerthol wrth ddylanwadu ac ymgyrchu.

Rydyn ni’n angerddol ynghylch cefnogi ac amddiffyn ein haelodau, ac ynghylch gweithio er budd system addysg sy’n gwbl addas i anghenion Cymru a phawb sy’n byw yma. 

ATHRAWON DAN HYFFORDDIANT

AELODAETH AM DDIM

Os ydych chi’n hyfforddi i fod yn athro, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim i chi trwy gydol eich hyfforddiant.

Felly os ydych chi’n gwneud gradd BAdd, cymhwyster ôl-radd fel TAR (PGCE), neu’n gwneud doethuriaeth ac yn gwneud rhywfaint o addysgu, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.


ATHRAWON NEWYDD GYMHYWSO

BLWYDDYN O AELODAETH AM DDIM
gyda'r flwyddyn ganlynol yn hanner pris

Os ydych chi’n Athro Newydd Gymhwyso, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim trwy gydol eich blwyddyn addysgu gyntaf, ac yn hanner pris y flwyddyn ganlynol.

Felly os ydych chi newydd gymhwyso, a heb ymaelodi’n barod, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.

Os ydych chi'n ymuno am y tro cyntaf
Os ydych chi'n aelod yn barod

NEWYDDION

GWRES LLETHOL

Mehefin 24ain, 2026 

Yn wyneb y gwres llethol, rydym yn deall ac yn annog yr angen i ystyried a dilyn trefniadau gwahanol i’r arfer.  Mae sefyllfa pob ysgol yn wahanol, ond mae’n bwysig bod camau pendant yn cael eu cymryd i asesu’r risg i’r gweithlu ac i ddysgwyr.   Rhaid bod yn ofalus a gofalgar o bob unigolyn yr ysgol, gan roi sylw dyledus ac arbennig i’r carfannau hynny y bydd y gwres yn effeithio fwyaf arnynt.    O fod wedi asesu’r risg, yna mae’n bwysig bod y camau priodol yn cael eu cymryd o fewn ysgolion, gan addasu trefn diwrnod, gofynion gwisg a gweithgareddau yn ôl yr angen.  Os nad yw’r asesiad risg yn gallu gwarantu diogelwch staff a disgyblion, yna rhaid derbyn fod yr ysgol yn wynebu’r penderfyniad anochel o gau’r ysgol.   Mae’n bwysig bod pob aelod o’r gweithlu a phob dysgwr yn gweithio mewn awyrgylch ddiogel.

FFONAU SYMUDOL YN EIN HYSGOLION

Mehefin 17eg, 2026 

YMATEB UCAC I DDATGANIAD Y GWEINIDOG DROS ADDYSG 

Mae UCAC yn croesawu datganiad y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan, ddoe y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ‘disgwyliadau Cenedlaethol clir ar sut mae ffonau symudol yn cael eu defnyddio mewn ysgolion. ‘ Edrychwn ymlaen at weld y canllawiau ac at y cyfle o ymateb i ymgynghoriad a gynhelir ym mis Medi. Rydym yn falch fod y Gweinidog wedi nodi y bydd y canllaw statudol yn cynnig disgwyliadau clir.  Mae eglurder a chysondeb cenedlaethol yn hollbwysig yn ein barn ni.  Yn ddi-os gall ffonau symudol greu problem mewn ysgolion ac mae hyn yn creu gwaith ychwanegol i staff ysgolion sy’n gorfod delio gyda chanlyniadau defnydd amhriodol. Mae’n bwysig bod athrawon yn cael y cyfle i ganolbwyntio ar eu priod waith, sef addysgu. 

Rydym eisoes yn ymwybodol o rai cynlluniau sydd ar waith mewn ysgolion i gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol.  Mae ein haelodau wedi cyfeirio at ganlyniadau cadarnhaol hyn, gyda disgyblion yn siarad mwy â’i gilydd ac yn ymroi i weithgareddau eraill yn hytrach na bod ynghlwm wrth eu sgriniau ffôn.  Rydym hefyd yn ymwybodol bod angen sensitifrwydd i ofynion rhai dysgwyr sy’n gorfod cael mynediad at eu ffonau oherwydd cyflyrau meddygol. 

Edrychwn ymlaen at drafodaeth bellach am y maes hwn gyda’r Llywodraeth yn ystod yr wythnosau a’r  misoedd nesaf.  Rydym yn awyddus i wneud y gorau dros staff ein hysgolion a chreu amgylchedd dysgu ddiogel i’n dysgwyr.